Romans 14:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yr vn a betrusa, a’s bwyty, y mae yn varnedic, can nad yw ef yn bvvyta o ffydd: a’ pha beth bynac, nyd yw o ffyð, pechat yw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond yr hwn sy’n ammeu, os bwytty, condemniwyd ef gan nad o ffydd y bwytty; a phob peth nad yw o ffydd, pechod yw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond y neb a betrusa a gondemniwyd, os bwyty, am nas gwna oddi ar ffydd; a phopeth ni wneir oddi ar ffydd, pechod yw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr hwn sydd yn petruso, os bwyty, efe a gondemniwyd, am nad yw yn bwyta o ffydd: a pheth bynnag nid yw o ffydd, pechod yw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae'r person sydd ddim yn siŵr beth sy'n iawn yn ei gondemnio ei hun wrth fwyta — am beidio gwneud beth mae'n gredu fyddai Duw am iddo'i wneud. Mae peidio gwneud beth dŷn ni'n gredu mae Duw am i ni ei wneud yn bechod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os bydd rhywun, er gwaethaf ei amheuon, yn bwyta pob peth, y mae wedi ei gollfarnu. Oherwydd nid o ffydd y bydd yn gweithredu. Ac y mae popeth nad yw'n tarddu o ffydd yn bechod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr yr hwn sydd yn petruso, os bwytty, sydd wedi ei gondemnio, am nad o ffydd y gweithreda: a phob peth nad yw o ffydd, pechod yw.