Romans 14:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Na thremyget hwn ’sy yn bwyta yr hwn nyd yw yn bwyta: ac na varnet yr vn ny vwyty, yr vn a vwyty. Can ys Duw y d erbiniawð ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn sy’n bwytta, na ddirmyged yr hwn nad yw yn bwytta; a’r hwn nad yw’n bwytta, na farned yr hwn sydd yn bwytta, canys Duw a’i derbyniodd ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y neb a fwyty, na ddiystyred y sawl ni fwyty, a’r neb na fwyty, na farned y sawl a fwyty, canys derbyniodd Duw ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn sydd yn bwyta, na ddirmyged yr hwn nid yw yn bwyta; a'r hwn nid yw yn bwyta, na farned ar yr hwn sydd yn bwyta: canys Duw a'i derbyniodd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid i'r rhai sy'n hapus i fwyta popeth beidio edrych i lawr ar y rhai sydd ddim yn gyfforddus i wneud hynny. A rhaid i'r bobl sy'n dewis peidio bwyta rhai pethau beidio beirniadu y rhai sy'n teimlo'n rhydd i fwyta — wedi'r cwbl mae Duw yn eu derbyn nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhaid i'r sawl sy'n bwyta pob peth beidio bychanu'r sawl sy'n ymwrthod, a rhaid i'r sawl sy'n ymwrthod beidio barnu'r sawl sy'n bwyta, oherwydd y mae Duw wedi ei dderbyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn sydd yn bwytta, na ddirmyged yr hwn nid yw yn bwytta; a'r hwn nid yw yn bwytta, na farned yr hwn sydd yn bwytta, canys Duw a'i derbyniodd ef atto.