Romans 14:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pwy yw ti yr hwn a verny yn euoc was gvvr arall? Y mae ef yn sefyll: nei yn cwympo yw arglwydd y hun: ac ef a gynhelir: can ys dichon Duw beri iddo sefyll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Tydi, pwy wyt, yr hwn wyt yn barnu gwas un arall? I’w arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll neu yn syrthio; a sefydlir ef, canys abl yw’r Arglwydd i wneud iddo sefyll.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pwy wyt ti i farnu gwas un arall? I’w arglwydd ei hun y saif neu y syrth; a pherir iddo sefyll, canys fe all yr Arglwydd beri iddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy wyt ti, yr hwn wyt yn barnu gwas un arall? I'w arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll, neu yn syrthio: ac efe a gynhelir; canys fe a all Duw ei gynnal ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Oes gen ti hawl i ddweud y drefn wrth was rhywun arall? Meistr y gwas sy'n penderfynu os ydy beth mae'n ei wneud yn iawn ai peidio. Gad i'r Arglwydd benderfynu os ydy'r rhai rwyt ti'n anghytuno gyda nhw yn gwneud y peth iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy wyt ti, i fod yn barnu gwas rhywun arall? Gan y Meistr y mae'r hawl i benderfynu a yw rhywun yn sefyll neu'n syrthio. A sefyll a wna, oherwydd y mae'r Meistr yn abl i beri i rywun sefyll.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu gwas un arall? i'w arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll neu yn syrthio; ac efe a wneir i sefyll, canys fe a all Duw wneyd iddo sefyll.