Romans 14:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ryw vn a varn bot dydd uchlaw dydd, ac vn arall a varu bop dydd yn o’gyfuvvch: bit pop vn yn gwbl ddilys yn ei veddwl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Un a farn ddiwrnod uwchlaw diwrnod, ac arall a farn bob diwrnod yn ogyfuwch: bydded pob un wedi ei iawn-berswadio yn ei feddwl ei hun.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Barn un ddiwrnod yn uwch na diwrnod, barn arall bob diwrnod yn gyfwerth; boed pob un yn gwbl sicr yn ei feddwl ei hun.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae un yn barnu diwrnod uwchlaw diwrnod; ac arall yn barnu pob diwrnod yn ogyfuwch. Bydded pob un yn sicr yn ei feddwl ei hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma i chi enghraifft arall: Mae rhai pobl yn gweld un diwrnod yn wahanol i bob diwrnod arall, hynny ydy, yn gysegredig. Ond mae pobl eraill yn ystyried pob diwrnod yr un fath. Dylai pawb fod yn hollol siŵr o'i safbwynt.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae ambell un yn ystyried un dydd yn well na'r llall, ac un arall yn eu hystyried i gyd yn gyfartal. Rhaid i'r naill a'r llall fod yn gwbl argyhoeddedig yn eu meddyliau eu hunain.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Un a farn ddiwrnod uwchlaw diwrnod, ond arall a farn bob diwrnod yr un fath: bydded pob un yn hollol argyhoeddedig yn ei feddwl ei hun.