Romans 14:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys ai byw vyddom, byw vyddom ir Arglwydd: ai meirw vyddom, meirw vyddom ir Arglwydd: pa vn bynac gan hyny a wnelom ai byw ai marw, yr Arglwydd a’n pieu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys os byw yr ydym, i’r Arglwydd yr ydym yn byw; ac os marw yr ydym, i’r Arglwydd yr ydym yn marw: gan hyny, pa un bynnag ai byw yr ydym ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys os byw, i’r Arglwydd yr ydym yn byw, ac os marw, i’r Arglwydd yr ydym yn marw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pa un bynnag yr ydym ai byw, i'r Arglwydd yr ydym yn byw; ai marw, i'r Arglwydd yr ydym yn marw: am hynny, pa un bynnag yr ydym ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth fyw ac wrth farw, dŷn ni eisiau bod yn ffyddlon i'r Arglwydd. Pobl Dduw ydyn ni tra byddwn ni byw a phan fyddwn ni farw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os byw yr ydym, i'r Arglwydd yr ydym yn byw, ac os marw, i'r Arglwydd yr ydym yn marw. Prun bynnag ai byw ai marw yr ydym, eiddo'r Arglwydd ydym.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os byw ydym, i'r Arglwydd yr ydym yn byw; ac os marw ydym, i'r Arglwydd yr ydym yn marw; gan hynny, pa un bynnag yr ydym ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym.