Romans 15:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A thrachefyn Esaias a ddywait, E vydd gwreiddyn yr Iesse, a’r hwn a gyfyt y lywodraethu ’r Cenetloedd, yn hwnw y gobeithia ’r Cenetloedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac etto Eshaiah a ddywaid, “Bydd gwreiddyn Ieshe, A’r hwn sy’n cyfodi i lywodraethu’r cenhedloedd; Ynddo Ef y cenhedloedd a obeithiant.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thrachefn, dywed Eseias: Bydd gwreiddyn o Jese, a chyfyd hwn i lywodraethu’r cenhedloedd; ynddo ef y gobeithia’r cenhedloedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thrachefn y mae Eseias yn dywedyd, Fe fydd gwreiddyn Jesse, a'r hwn a gyfyd i lywodraethu'r Cenhedloedd: ynddo ef y gobeithia'r Cenhedloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna mae'r proffwyd Eseia'n dweud hyn: “Bydd y blaguryn o deulu Jesse yn tyfu, sef yr un sy'n codi i deyrnasu ar y cenhedloedd. Bydd yr holl genhedloedd yn gobeithio ynddo.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae Eseia hefyd yn dweud: "Fe ddaw gwreiddyn Jesse, y gu373?r sy'n codi i lywodraethu'r Cenhedloedd; arno ef y bydd y Cenhedloedd yn seilio'u gobaith."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A thrachefn y mae Esaia yn dywedyd, Fe fydd gwreiddyn Jesse, a'r hwn a gyfyd i lywodraethu y Cenhedloedd; ynddo ef y gobeithia y Cenhedloedd.