Romans 15:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ Duw ’r gobeith a’ch cyflanwo o bop llewenydd, a’ thangneddyf gan gredu, val ich amylhaer yn‐gobeith trwy nerth yr Yspryt glan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Duw’r gobaith a’ch llanwo â phob llawenydd a thangnefedd yn eich credu, fel y byddoch orlawn yn eich gobaith yngallu yr Yspryd Glân.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Duw’r gobaith a’ch llanwo chwi â phob llawenydd a heddwch wrth gredu ohonoch, fel yr ymhelaethoch yn y gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glân.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Duw'r gobaith a'ch cyflawno o bob llawenydd a thangnefedd gan gredu, fel y cynyddoch mewn gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dw i'n gweddïo y bydd Duw, ffynhonnell gobaith, yn llenwi'ch bywydau gyda'r llawenydd a'r heddwch dwfn sy'n dod o gredu ynddo; ac y bydd yr Ysbryd Glân yn gwneud i obaith orlifo yn eich bywydau chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Gln, yn gorlifo gobaith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn awr Duw y gobaith a'ch llanwo â phob llawenydd a thangnefedd yn eich credu, fel y byddoch helaeth mewn gobaith yng ngallu yr Yspryd Glân.