Romans 15:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac y mae yn ðilys genyf vi vyhun am dano‐chwi, vy‐broder, a’ch bot chwi yn llawn daoni, ac yn gyflawn o bop gwybodaeth, ac y metrwch gygcory ei gylydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A pherswadiwyd fi, fy mrodyr, ïe, myfi fy hun, am danoch, eich bod chwi eich hunain yn orlawn o ddaioni, wedi eich llenwi o bob gwybodaeth, yn abl i gynghori eich gilydd hefyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yr ydwyf yn sicr, fy mrodyr, ie, myfi fy hun amdanoch chwi, eich bod chwithau yn orlawn o ddaioni, wedi’ch llenwi â phob gwybodaeth, yn abl hefyd i gynghori eich gilydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr wyf fi fy hun, fy mrodyr, yn credu amdanoch chwi, eich bod chwithau yn llawn daioni, wedi eich cyflawni o bob gwybodaeth, ac yn abl i rybuddio eich gilydd hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does dim amheuaeth gen i, frodyr a chwiorydd, eich bod chi'n gwybod beth sy'n dda ac yn iawn, a'ch bod chi'n gallu dysgu eich gilydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf fi, o'm rhan fy hun, yn gwbl sicr, fy nghyfeillion, eich bod chwithau yn llawn daioni, yn gyforiog o bob gwybodaeth, ac yn alluog i hyfforddi eich gilydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr wyf fi fy hun, fy mrodyr, yn coelio am danoch chwi, eich bod chwithau hefyd yn llawn daioni, wedi eich llenwi o bob gwybodaeth, ac hefyd yn abl i gynghori eich gilydd.