Romans 15:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Er hyny vrodur, mi scrivennais atoch yn hyfach o beth, val vn yn dwyn ar gof ywch, trwy y Rat a roed ymy gan Dduw,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond yn fwy hyderus yr ysgrifenais, rhywfaint, attoch, fel yn eich adgoffau,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr ysgrifennais yn fwy hy atoch i fesur, megis un yn eich atgoffa, oherwydd y gras a roddwyd i mi gan Dduw
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr mi a ysgrifennais yn hyach o beth atoch, O frodyr, fel un yn dwyn ar gof i chwi, trwy'r gras a roddwyd i mi gan Dduw;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dw i wedi dweud rhai pethau yn blwmp ac yn blaen yn y llythyr yma, er mwyn eich atgoffa chi. Dyna'r gwaith mae Duw wedi ei roi i mi —
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bm braidd yn hy arnoch mewn mannau yn fy llythyr, wrth geisio deffro eich cof. Ond gwneuthum hyn ar bwys y gorchwyl a roddodd Duw i mi o'i ras,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond ysgrifennwyf yn fwy hyf o fesur attoch, fel yn eich adgoffa chwi o herwydd y gras a roddwyd i mi oddiwrth Dduw