Romans 15:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
y vot o hanof yn wasanaethwr Iesu Christ tu a’r Cenetloeð, gan ’lan weithiaw Euangel Duw, val y byddei offrymiat y Cenetloedd yn gymradwy, wedy’ sancteiddio gan yr Yspryt glan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
o achos y gras a roddwyd i mi gan Dduw i fod o honof yn weinidog Iesu Grist at y cenhedloedd, yn offeiriadu yn efengyl Dduw, fel y byddai offrwm y cenhedloedd yn gymmeradwy, wedi ei sancteiddio gan yr Yspryd Glân.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel y byddwn wasanaethwr Crist Iesu i’r cenhedloedd, yn offeiriadu yn efengyl Duw, fel y byddai’r offrwm, y cenhedloedd, yn gymeradwy, wedi ei sancteiddio trwy’r Ysbryd Glân.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y byddwn weinidog i Iesu Grist at y Cenhedloedd, gan weini i efengyl Duw, fel y byddai offrymiad y Cenhedloedd yn gymeradwy, wedi ei sancteiddio gan yr Ysbryd Glân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
gwasanaethu y Meseia Iesu ymhlith pobl sydd ddim yn Iddewon. Dw i'n cyflwyno newyddion da Duw i chi, er mwyn i'r Ysbryd Glân eich glanhau chi a'ch gwneud chi sydd o genhedloedd eraill yn offrwm derbyniol i Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
i fod yn weinidog Crist Iesu i'r Cenhedloedd, yn gweini fel offeiriad ar Efengyl Duw, er mwyn cyflwyno'r Cenhedloedd iddo yn offrwm cymeradwy, offrwm wedi ei gysegru gan yr Ysbryd Gln.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
i fod yn weinidog Crist Iesu i'r Cenhedloedd, gan wasanaethu efengyl Duw, fel y byddai offrymiad y Cenhedloedd yn gymmeradwy, wedi ei sancteiddio yn yr Yspryd Glân.