Romans 15:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
trwy nerth arwyddion a’ rhyveddadae, gan nerth Yspryt Duw: val pan yw o Gaerusalē ac o amgylch yd Illyricum y gorllenwais o Euangel Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
trwy allu arwyddion a rhyfeddodau, trwy allu yr Yspryd Glân, fel y bu i mi o Ierwshalem ac o amgylch hyd Ilyricum,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
trwy nerth arwyddion a rhyfeddodau, trwy nerth yr Ysbryd Glân; ac felly cyflawnais efengyl y Crist o Jerwsalem ac o amgylch hyd Ilyricwm,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trwy nerth arwyddion a rhyfeddodau, gan nerth Ysbryd Duw; hyd pan o Jerwsalem, ac o amgylch hyd Ilyricum, y llenwais efengyl Crist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac wedi cyflawni gwyrthiau rhyfeddol drwy nerth yr Ysbryd Glân. Dw i wedi cyhoeddi'r newyddion da am y Meseia yr holl ffordd o Jerwsalem i dalaith Ilyricwm.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
trwy rym arwyddion a rhyfeddodau, trwy nerth Ysbryd Duw. Ac felly, yr wyf fi wedi cwblhau cyhoeddi Efengyl Crist mewn cylch eang, o Jerwsalem cyn belled ag Ilyricum.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yng ngallu arwyddion a rhyfeddodau, yng ngallu yr Yspryd Glân; fel ag o Jerusalem a'r wlad o amgylch hyd Illyricum, yr wyf wedi llawn‐bregethu efengyl Crist;