Romans 15:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr megis y mae yn scrivenedic, Y bwy ny venagwyt am dano ef, wy y gwelant ef a’r ei ny chlywsant, ei dyallant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr fel yr ysgrifenwyd, “Gwel y rhai na fynegwyd iddynt am Dano; Ac y rhai na chlywsant, a ddeallant.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
eithr fel yr ysgrifennwyd: Fe wêl y rheini na fynegwyd iddynt amdano, ac fe ddealla’r rheini na chlywsant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr megis y mae yn ysgrifenedig, I'r rhai ni fynegwyd amdano, hwynt‐hwy a'i gwelant ef; a'r rhai ni chlywsant, a ddeallant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud eto: “Bydd pobl na ddwedodd neb wrthyn nhw amdano yn gweld, a rhai oedd heb glywed amdano yn deall.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
fel y mae'n ysgrifenedig: "Bydd y rheini na chyhoeddwyd dim wrthynt amdano yn gweld, a'r rheini na chlywsant ddim amdano yn deall."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr fel y mae yn ysgrifenedig, I'r rhai ni fynegwyd am dano, hwy a welant, A'r rhai ni chlywsant a ddeallant.