Romans 15:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
pan elwyf ymdðaith ir Hispaen, y dauaf atoch: can ys gobeithaf ych gwelaf wrth deithio ffordd yna, a’ chael vy hebrwng genwch tu ac yno, gwedy im golāwer o’ch cymdeithas.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
am ddyfod attoch, pa bryd bynnag yr af i’r Hispaen, (canys gobeithiaf eich gweled wrth fyned heibio, ac fy hebrwng genych chwi yno, os byddaf yn gyntaf,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
pan elwyf i’r Hispaen (canys gobeithiaf ar fy ffordd gael golwg arnoch a’m hebrwng gennych yno, os caf yn gyntaf fy niwallu â’ch cymdeithas dros dro);
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan elwyf i'r Hispaen, myfi a ddeuaf atoch chwi: canys yr wyf yn gobeithio, wrth fyned heibio, y caf eich gweled, a'm hebrwng gennych yno, os byddaf yn gyntaf o ran wedi fy llenwi ohonoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i am fynd i Sbaen, ac yn gobeithio galw heibio chi yn Rhufain ar y ffordd. Ar ôl i mi gael y pleser o'ch cwmni chi am ychydig, cewch chi fy helpu i fynd ymlaen yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
pryd bynnag y byddaf ar fy ffordd i Sbaen, yr wyf yn gobeithio ymweld chwi wrth fynd trwodd, a chael fy hebrwng gennych ar fy nhaith yno, ar l mwynhau eich cwmni am ychydig.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
pa bryd bynnag yr elwyf i'r Hispaen, — canys gobeithiaf eich gweled wrth fyned heibio, a'm hebrwng gennych yno, os byddaf yn gyntaf, i fesur, wedi cael llawn fwynhâd gyda chwi —