Romans 15:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cā ys ryngodd boð yddynt, a’ ei dyledwyr ydynt: o bleit a’s y Cenetloedd vyð cyfranwyr o ei petheu ysprytawl hwy, hwyn teu a ddylent hefyt weini yddynt ym‐petheu cnawdol.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys gwelwyd yn dda ganddynt, a dyledwyr ydynt iddynt, canys os yn eu pethau ysprydol hwynt y cafodd y cenhedloedd gyfran, dyledwyr ydynt hefyd i weini, mewn pethau cnawdol, iddynt hwy.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
bu’n dda ganddynt, meddaf, ac y maent yn eu dyled; canys os o’u pethau ysbrydol hwy y cyfranogodd y cenhedloedd, dylent hwy yn eu tro eu gwasanaethu hwythau mewn pethau cnawdol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys rhyngodd bodd iddynt; a'u dyledwyr hwy ydynt. Oblegid os cafodd y Cenhedloedd gyfran o'u pethau ysbrydol hwynt, hwythau hefyd a ddylent weini iddynt hwythau mewn pethau cnawdol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw'n falch o gael cyfle i rannu fel hyn, am eu bod yn teimlo fod ganddyn nhw ddyled i'w thalu. Mae pobl y cenhedloedd wedi cael rhannu bendithion ysbrydol yr Iddewon, felly mae'n ddigon teg i'r Iddewon gael help materol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelsant yn dda, do, ond yr oeddent hefyd dan ddyled iddynt. Oherwydd os cafodd y Cenhedloedd gyfran o'u trysor ysbrydol hwy, y mae'n ddyled ar y Cenhedloedd weini arnynt mewn pethau tymhorol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys rhyngodd bodd iddynt, a'u dyledwyr hwy ydynt; canys os yn eu pethau ysprydol hwy y cyfrannogodd y Cenhedloedd, hwythau hefyd ddylent weini iddynt hwythau mewn pethau cnawdol.