Romans 15:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno gwedy cwplawyf hyn yma, a’ selio yddynt y ffrwyth hwn, mi ddavv af heboch ir Hispayn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pan hyn, gan hyny, a orphenwyf, ac wedi selio iddynt y ffrwyth hwn, af ymaith heboch i’r Hispaen;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi cwblhau hyn, felly, a sicrhau iddynt y ffrwyth hwn, af ymaith i’r Hispaen, heibio i chwi;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi i mi gan hynny orffen hyn, a selio iddynt y ffrwyth hwn, mi a ddeuaf heboch i'r Hispaen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan fydda i wedi gorffen hyn, a gwneud yn siŵr eu bod wedi derbyn yr arian, dw i'n mynd i alw heibio i'ch gweld chi ar fy ffordd i Sbaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, pan fyddaf wedi cyflawni'r gorchwyl hwn, a gosod y casgliad yn ddiogel yn eu dwylo, caf gychwyn ar y daith i Sbaen a galw heibio i chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wedi i mi gan hynny orphen hyn, a selio iddynt y ffrwyth hwn, mi a äf heibio trwoch chwi i'r Hispaen;