Romans 15:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ mi wn pan ddelwyf, y dauaf atoch a chyflawnder bendith Euangel Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gwn pan ddelwyf attoch, mai yng nghyflawnder bendith Crist y deuaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a gwn wrth ddyfod atoch y deuaf yng nghyflawnder bendith Crist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a wn, pan ddelwyf atoch, y deuaf â chyflawnder bendith efengyl Crist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n gwybod y bydda i'n dod i rannu bendith fawr gan y Meseia gyda chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwn y bydd fy ymweliad chwi dan fendith gyflawn Crist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a gwn pan ddelwyf attoch y deuaf yng nghyflawnder bendith Crist.