Romans 15:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys Christ ny ’s bod d lonawdd ehun an, eithr megis y mae yn scrivenedic, Goganion yr ei ath ’ogonant, a gwympesont arnaf. Yr Epistol yr ail Sul yn Aduent.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys ni fu i Grist ryngu bodd Ei hun, eithr fel yr ysgrifenwyd, “Gwaradwyddiadau y rhai a’th waradwyddant a syrthiasant arnaf.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y Crist yntau nis boddhaodd ei hun; eithr fel yr ysgrifennwyd: Syrthiodd gwaradwyddiadau y sawl a’th waradwyddai di arnaf fi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys Crist nis boddhaodd ef ei hun; eithr, megis y mae yn ysgrifenedig, Gwaradwyddiadau y rhai a'th waradwyddent di, a syrthiasant arnaf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim ei blesio ei hun wnaeth y Meseia — fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Dw i hefyd wedi cael fy sarhau yn y ffordd gest ti dy sarhau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd nid ei blesio ei hun a wnaeth Crist. I'r gwrthwyneb, fel y mae'n ysgrifenedig: "Y mae gwaradwydd y rhai oedd yn dy waradwyddo di wedi syrthio arnaf fi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys Crist nis boddhâodd ef ei hun, eithr, fel y mae yn ysgrifenedig, Gwaradwyddiadau y rhai a'th waradwyddant di a syrthiasant arnaf fi.