Romans 15:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hefyt vroder, atolygaf ychwy er mwyn ein Arglwyð Iesu Christ, ac er cariat ar yr yspryt, ymryson ohanoch a’ mi a gweddiaw ar Dduw drosof.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac attolygaf i chwi, frodyr, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, a thrwy gariad yr Yspryd, ar gydymdrech o honoch gyda mi yn eich gweddïau drosof at Dduw,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond erfyniaf arnoch, frodyr, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, a thrwy gariad yr Ysbryd, ymdrechu gyda mi yn eich gweddïau trosof ar Dduw,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er mwyn ein Harglwydd Iesu Grist, ac er cariad yr Ysbryd, ar gydymdrech ohonoch gyda myfi mewn gweddïau drosof fi at Dduw;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Frodyr a chwiorydd, sy'n perthyn i'r Arglwydd Iesu Grist ac yn rhannu'r cariad mae'r Ysbryd yn ei roi, dw i'n apelio arnoch chi i ymuno gyda mi yn y frwydr drwy weddïo drosto i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, a thrwy'r cariad sy'n ffrwyth yr Ysbryd: ymunwch mi yn fy ymdrech, a gweddo ar Dduw trosof,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn awr, yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, a thrwy gariad yr Yspryd, ar gyd‐ymdrech o honoch gyda myfi mewn gweddiau drosof fi at Dduw,