Romans 15:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y n ym rhyddhaer ywrth yr ei ’sy yn anuvydd yn Iudaia, ac y im gweinidogeth ’sy i mi vvnevvthur yn‐Caerusalem, vot yn gymradwy gan y Sainct æ,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel y’m gwareder oddiwth y rhai anufudd yn Iwdea, ac ar i’m gweinidogaeth, yr hon sydd i Ierwshalem, fod yn gymmeradwy gan y saint,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel y gwareder fi rhag yr anghredinwyr yn Jwdea, a bod fy ngweinidogaeth yn Jerwsalem yn gymeradwy gan y saint,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y'm gwareder oddi wrth y rhai anufudd yn Jwdea: ac ar fod fy ngweinidogaeth, yr hon sydd gennyf i Jerwsalem, yn gymeradwy gan y saint;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gweddïwch y bydd Duw yn fy amddiffyn i rhag y rhai yn Jwdea sy'n gwrthod ufuddhau i Dduw. Gweddïwch hefyd y bydd y Cristnogion yn Jerwsalem yn derbyn y rhodd sydd gen i iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ar i mi gael fy arbed rhag yr anghredinwyr yn Jwdea, ac i'r cymorth sydd gennyf i Jerwsalem fod yn dderbyniol gan y saint;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y'm gwareder oddiwrth y rhai anufudd yn Judea, ac y byddo fy ngwasanaeth, yr hwn sydd i Jerusalem, yn dderbyniol gan y saint: