Romans 15:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys pa betheu bynac a scrivenwyt ym blaenllaw, er addysc i ni y rrac scrivenwyt vvy: val y gallem ni trwy ammynedd a’ chonffort yr Scrythurae gahel gobeith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys cynnifer bethau ag a ysgrifenwyd, er addysg i ni yr ysgrifenwyd hwynt, fel trwy amynedd a diddanwch yr Ysgrythyrau y byddem a gobaith genym:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oblegid pa bethau bynnag a ysgrifennwyd gynt, fe’u hysgrifennwyd er ein haddysgu, fel trwy amynedd a thrwy ddiddanwch yr ysgrythurau y caffom y gobaith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o'r blaen, er addysg i ni yr ysgrifennwyd hwynt; fel trwy amynedd a diddanwch yr ysgrythurau, y gallem gael gobaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd pethau fel yma eu hysgrifennu yn y gorffennol i'n dysgu ni, er mwyn i'r ysgrifau sanctaidd ein hannog ni i fod yn amyneddgar wrth edrych ymlaen i'r dyfodol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac fe ysgrifennwyd yr Ysgrythurau gynt er mwyn ein dysgu ni, er mwyn i ni, trwy ddyfalbarhad a thrwy eu hanogaeth hwy, ddal ein gafael yn ein gobaith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o'r blaen, er addysg i ni yr ysgrifennwyd hwynt, fel trwy amynedd a dyddanwch yr Ysgrythyrau y cawsem obaith.