Romans 15:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mal o gytundep, ac o vn geneu y galloch voliantu Duw ’sef Tad ein Arglwydd Iesu Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel y bo i chwi yn unfryd, o un genau, ogoneddu Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel yn gytûn ag un genau y gogoneddoch Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y galloch yn unfryd, o un genau, ogoneddu Duw, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Drwy wneud hynny byddwch gyda'ch gilydd yn rhoi clod i Dduw, sef Tad ein Harglwydd Iesu Grist.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
er mwyn ichwi, yn unfryd ac yn unllais, ogoneddu Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel yn unfryd o un genau y gogoneddoch Dduw a Thâd ein Harglwydd Iesu Grist.