Romans 15:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hyn, a ðywedaf, bot Iesu Christ yn wenidoc ir enwaediat er mwyn gwirionedd Duw, er cadarnhau yr addeweidion avvnaethpvvyt ir tadae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys dywedaf y bu i Grist Ei wneud yn weinidog yr amdorriad er mwyn gwirionedd Duw, er mwyn cadarnhau yr addewidion i’r tadau,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedyd yr wyf ddyfod Crist yn weinidog enwaediad er mwyn gwirionedd Duw, i gadarnhau addewidion y tadau,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr wyf yn dywedyd, wneuthur Iesu Grist yn weinidog i'r enwaediad, er mwyn gwirionedd Duw, er mwyn cadarnhau'r addewidion a wnaethpwyd i'r tadau:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth y Meseia at yr Iddewon fel gwas, i ddangos fod Duw wedi cadw'r addewidion a wnaeth i Abraham, Isaac a Jacob.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yr wyf yn dweud bod Crist wedi dod yn was i'r Iddewon er mwyn dangos geirwiredd Duw, sef ei fod yn cadarnhau'r addewidion i'r hynafiaid,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr wyf yn dywedyd i Grist gael ei wneyd yn weinidog yr Enwaediad er mwyn gwirionedd Duw, er cadarnhâd yr addewidion i'r Tadau,