Romans 15:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ rhoet y Cenetloeð ’ogoniant y Dduw, dros ei drugaredd, mal y mae yn scrivenedic. Er mwyn hyn ith cyffessaf ym‐plith y Cenetloedd, ac y canaf ith Enw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac y byddai i’r cenhedloedd ogoneddu Duw am Ei drugaredd, fel yr ysgrifenwyd, “O achos hyn y’th foliannaf ym mhlith y cenhedloedd, Ac i’th enw y canaf.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac fel y gogoneddai’r cenhedloedd Dduw am ei drugaredd; fel yr ysgrifennwyd: Am hyn y clodforaf di ymhlith y cenhedloedd, ac i’th enw y canaf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel y byddai i'r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd; fel y mae yn ysgrifenedig, Am hyn y cyffesaf i ti ymhlith y Cenhedloedd, ac y canaf i'th enw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly mae pobl o bob cenedl yn clodfori Duw am ei drugaredd. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydda i'n dy foli di ymhlith y cenhedloedd, ac yn canu mawl i'th enw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a hefyd er mwyn i'r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd. Fel y mae'n ysgrifenedig: "Oherwydd hyn, clodforaf di ymysg y Cenhedloedd, a chanaf i'th enw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac fel y byddai i'r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd, fel y mae yn ysgrifenedig, O achos hyn y canmolaf di ym mhlith y Cenhedloedd, ac i'th enw y canaf.