Romans 16:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ mi atolygaf ywch’ vroder, edrych‐yn‐graph ar yr ei ’sy yn peri ancydfot a’ rhwystrae, yn erbyn yr athraweth a ddyscesoch, ac ymogelwch racddwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac attolygaf i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sy’n peri ymraniadau a thramgwyddau yn groes i’r athrawiaeth a ddysgasoch chwi, a chiliwch oddiwrthynt;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Erfyn yr wyf arnoch, frodyr, wylio’r sawl a bair yr ymraniadau a’r rhwystrau yn groes i’r ddysgeidiaeth a gawsoch, a throwch oddi wrthynt;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi; a chiliwch oddi wrthynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n apelio atoch chi frodyr a chwiorydd, i wylio'r bobl hynny sy'n creu rhaniadau ac yn ceisio'ch cael i wneud yn groes i beth wnaethoch chi ei ddysgu. Cadwch draw oddi wrthyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, gwyliwch y rhai sydd yn peri rhwyg ac yn codi rhwystrau, yn groes i'r athrawiaeth a ddysgasoch chwi. Gochelwch rhagddynt,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri yr ymraniadau a'r tramgwyddau yn groes i'r athrawiaeth a ddysgasoch chwi, a throwch oddiwrthynt;