Romans 16:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yr ei ’sy gyfryw, ny wasanaethant yr Arglwyð Iesu Christ, any d y bol ie y h unain, a’ thrwy ’eiriae‐tec a’ gweniaith yn twyllo calonae yr ei diddrwc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys y cyfryw rai, ein Harglwydd Crist ni wasanaethant, eithr eu bol eu hunain; a thrwy eu gweniaith ac ymadrodd teg y twyllant galonnau y rhai di-ddrwg.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys caeth yw’r cyfryw, nid i’n Harglwydd Crist, ond i’w cylla eu hunain, a thrwy ymadrodd teg a gweniaith twyllant galonnau’r diddrwg.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y rhai sydd gyfryw, nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy ymadrodd teg a gweniaith, yn twyllo calonnau'r rhai diddrwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwasanaethu eu boliau eu hunain mae pobl felly, dim gwasanaethu'r Meseia, ein Harglwydd ni. Maen nhw'n twyllo pobl ddiniwed gyda'u seboni a'u gweniaith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd nid gwas-anaethu Crist ein Harglwydd y mae rhai fel hyn, ond eu chwantau eu hunain; pobl ydynt sydd, trwy eiriau teg a gweniaith, yn hudo meddyliau'r diniwed ar gyfeiliorn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys y cyfryw rai ni wasanaethant ein Harglwydd Crist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy lyfniaith a gweniaith hwy a hudant galonnau y rhai diniwed.