Romans 16:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gan ys ych uvyddtot chwi a dd aeth ar lled at pavvp oll: Ydd wyf yn llawen gan hyny am danoch: and eto mi wyllysiwn eich bot yn ddoethion, tu ac at ddayoni, ac yn wirion tu ac at ddrwg ioni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys eich ufudd-dod chwi, at bawb y daeth. Ynoch chwi, gan hyny, yr wyf yn llawenychu; ond ewyllysiwn i chwi fod yn ddoethion tuag at yr hyn sy dda, ac yn wirion tuag at yr hyn sydd ddrwg.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys cyrhaeddodd eich ufudd-dod hyd at bawb. O’ch plegid chwi gan hynny yr wyf yn llawenhau, ond mynnwn i chwi fod yn ddoeth yn y peth sy dda, a diniwed yn y peth sy ddrwg.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys eich ufudd‐dod chwi a ddaeth ar led at bawb. Yr wyf fi gan hynny yn llawen o'ch rhan chwi: eithr myfi a ewyllysiwn i chwi fod yn ddoethion tuag at y peth sydd dda, ac yn wirion tuag at y peth sydd ddrwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae pawb yn gwybod eich bod chi'n ufudd i'r Arglwydd, a dw i'n hapus iawn am hyn. Dw i am i chi fod yn ddoeth wrth wneud daioni ac yn ddieuog o wneud unrhyw ddrwg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae eich ufudd-dod chwi yn hysbys i bawb. Dyna pam yr wyf yn llawenhau o'ch plegid; ac eto yr wyf am i chwi barhau i fod yn ddoeth mewn daioni ond yn ddiniwed mewn drygioni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys eich ufudd‐dod chwi a gyrhaeddodd glustiau pawb. Yr wyf fi gan hynny yn llawenhau ynoch chwi, ond ewyllysiaf i chwi fod yn ddoethion tuag at yr hyn sydd dda, ac yn ddilwgr tuag at yr hyn sydd ddrwg.