Romans 16:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ar vot ywch y derbyn hi yn yr Arglwydd, megis y mae yn deilwng i Sainct æ ai chanhorthwyaw ym‐pop neges y bo rait yddei wrth‐ych porth: can ys hi vu dda o lety wrth lawer, ac wrthy vinef hefyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel y derbynioch hi yn yr Arglwydd mewn modd teilwng o’r saint, ac y cynnorthwyoch hi ym mha beth bynag y byddo rhaid iddi wrthych, canys hi hefyd a fu gymmorth i lawer, ac i minnau fy hun hefyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel y derbynioch hi yn yr Arglwydd yn deilwng o’r saint, a rhoi cymorth iddi ym mha achos bynnag y bo arni eich eisiau, oblegid bu hithau yn gymorth i lawer, ac i mi fy hun.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dderbyn ohonoch hi yn yr Arglwydd, megis y mae yn addas i saint, a'i chynorthwyo hi ym mha beth bynnag y byddo rhaid iddi wrthych: canys hithau hefyd a fu gymorth i lawer, ac i minnau fy hun hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhowch groeso brwd iddi — y math o groeso mae unrhyw un sy'n credu yn yr Arglwydd yn ei haeddu. Rhowch iddi pa help bynnag sydd arni ei angen. Mae hi wedi bod yn gefn i lawer iawn o bobl, gan gynnwys fi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Derbyniwch hi yn enw'r Arglwydd, mewn modd teilwng o'r saint, a byddwch yn gefn iddi ym mhob peth y gall fod arni angen eich cymorth, oherwydd y mae hithau wedi bod yn gefn i lawer, ac i mi yn bersonol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y derbynioch hi yn yr Arglwydd mewn modd teilwng o'r saint, ac y cefnogoch hi ym mha fater bynnag y bydd eich hanghen arni; canys hithau hefyd a fu amgeledd i lawer, ac i minnau fy hun hefyd.