Romans 16:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Duw pen y tangneðyf a sathr Satan y dan eich traed eb ohir. Rat ein Arglwydd Iesu Christ a vo gyd a chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Duw yr heddwch a ysiga Satan tan eich traed ar frys. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn fuan mathra Duw’r heddwch Satan dan eich traed. Bydded gras ein Harglwydd Iesu Grist gyda chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Duw'r tangnefedd a sathr Satan dan eich traed chwi ar frys. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A bydd Duw, sy'n rhoi'r heddwch dwfn, yn eich galluogi i sathru Satan a'i fathru dan eich traed yn fuan. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac felly, buan y bydd Duw yr heddwch yn malu Satan dan eich traed. Gras ein Harglwydd Iesu fyddo gyda chwi!
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Duw yr heddwch a sathr Satan dan eich traed yn fuan. Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi.