Romans 16:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi Tertius, yr hwn a scrivenodd yr epistol hwn ach anerchaf yn yr Arglwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eich annerch yr wyf fi Tertius, yr hwn a ’sgrifenais yr epistol hwn yn yr Arglwydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eich cyfarch yr wyf finnau, Tertios, sy’n ysgrifennu’r llythyr, yn yr Arglwydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr wyf fi Tertius, yr hwn a ysgrifennais yr epistol hwn, yn eich annerch yn yr Arglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(A finnau, Tertiws, sydd wedi rhoi'r llythyr yma ar bapur. Dw i'n eich cyfarch chi yn yr Arglwydd hefyd.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
(Ac yr wyf finnau, Tertius, sydd wedi ysgrifennu'r llythyr hwn, yn eich cyfarch yn yr Arglwydd.)
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr wyf fi Tertius yn eich cyfarch chwi, yr hwn a ysgrifennais yr epistol hwn yn yr Arglwydd.