Romans 16:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Iddo ef yr hwn a ddychon ech cadarnhau yn ol vy Euangel, a’ phregethiat Iesu Christ, gan ymatguddiat y dirgelwch, yr hwn vu gyfrinachol er yn oes oesoedd:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
I’r Hwn sydd abl i’ch cadarnhau yn ol fy efengyl, a phregethiad Iesu Grist, yn ol datguddiad y dirgelwch am yr hwn yn yr amseroedd tragywyddol yr oedd distawrwydd, ond a eglurwyd yn awr trwy’r Ysgrythyrau Prophwydol yn ol gorchymyn y tragywyddol Dduw, wedi ei wneuthur yn hyspys i’r holl genhedloedd er ufudd-dod ffydd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Iddo ef sy’n alluog i’ch cadarnhau chwi yn ôl fy efengyl i a’r cyhoeddi am Iesu Grist, yn ôl datguddiad dirgelwch na bu sôn amdano trwy’r amseroedd tragwyddol,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I'r hwn a ddichon eich cadarnhau yn ôl fy efengyl i, a phregethiad Iesu Grist, (yn ôl datguddiad y dirgelwch, yr hwn ni soniwyd amdano er dechreuad y byd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Clod i Dduw, sy'n gallu'ch gwneud chi'n gryf drwy'r newyddion da sydd gen i — sef y neges sy'n cael ei chyhoeddi am Iesu y Meseia. Mae'r cynllun dirgel yma wedi bod yn guddiedig ar hyd yr oesoedd,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Iddo ef sy'n abl i'ch gwneud yn gadarn, yn l yr Efengyl yr wyf fi'n ei phregethu, a'r genadwri am Iesu Grist, yn l y datguddiad o'r dirgelwch a fu'n guddiedig ers oesoedd maith,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn awr i'r hwn sydd alluog i'ch cadarnhâu yn ol fy efengyl i a phregethiad Iesu Grist, yn ol dadguddiad y dirgelwch a gadwyd mewn dystawrwydd trwy amserau tragywyddol,