Romans 16:27 — Compare Translations
6 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
I Dduw, meddaf, yr vnic ddoeth, bid gogoniant trwy Iesu Christ yn oes oesoedd.. Hvvn a escrivenwyt at y Ruueiniet o Corinthus ac a ddanvonvvyt trwy Phoibe, hon oedd wenidoc yr Eccles yn‐Cenchraia.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
i’r unig, ddoeth Dduw, trwy Iesu Grist: iddo ef boed y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I Dduw yr unig ddoeth, y byddo gogoniant trwy Iesu Grist yn dragywydd. Amen. At y Rhufeiniaid yr ysgrifennwyd o Gorinth, gyda Phebe, gweinidoges yr eglwys yn Cenchrea.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O achos beth wnaeth Iesu y Meseia, mae e, yr unig Dduw doeth, yn haeddu ei foli am byth! Amen!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
i'r unig ddoeth Dduw, trwy Iesu Grist iddo ef y bo'r gogoniant am byth! Amen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
— i'r unig ddoeth Dduw, trwy Iesu Grist, y byddo y gogoniant yn dragywydd. Amen.