Romans 16:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Anerchwch Andronicus ac Iunia vy‐cereint a’m cydgarcharorion, yr ei ’sy hynot ym‐plith yr Apostolion, ac oedden hefyt in Christ cyn na my vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Annerchwch Andronicus ac Iwnias, fy ngheraint ac fy nghyd-garcharorion, y rhai ydynt hynod ym mhlith yr apostolion, y rhai hefyd oeddynt o’m blaen i yng Nghrist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cyferchwch Andronicos a Jwnia, fy ngheraint a’m cyd-garcharorion, y rhai sydd nodedig ymhlith yr apostolion, ac a oedd yn wir o’m blaen i yng Nghrist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Anerchwch Andronicus a Jwnia, fy ngheraint a'm cyd‐garcharorion, y rhai sydd hynod ymhlith yr apostolion, y rhai hefyd oeddynt yng Nghrist o'm blaen i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Hefyd at Andronicus a Jwnia, cyd-Iddewon fuodd yn y carchar gyda mi. Mae nhw'n adnabyddus fel cynrychiolwyr i'r Arglwydd — roedden nhw'n credu yn y Meseia o'm blaen i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyfarchion i Andronicus a Jwnia, sydd o'r un genedl mi, ac a fu'n gydgarcharorion mi, yn amlwg ymhlith yr apostolion ac yn Gristionogion o'm blaen i.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Cyferchwch Andronicus a Junias, fy nghyd‐wladwyr, a'm cyd‐garcharorion, a'r rhai ydynt o nôd ym mhlith yr Apostolion, y rhai hefyd oeddynt yng Nghrist o'm blaen i.