Romans 2:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
CAn hyny diescus od wyt, ti ddyn, pwy pynac a verny: can ys yn yr hyn y barny arall, ith cydverny dyhun: can ys ti yr hwn wyt yn barnu arall, wyt yn gwneuthur yr vn petheu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, diesgus wyt, O ddyn, bob un y sy’n barnu, canys yn yr hyn y berni y llall, condemnio ti dy hun yr wyt, canys yr un pethau yr wyt ti y sy’n barnu, yn eu gwneuthur.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan hynny diesgus wyt ti, ddyn, pwy bynnag wyt sy’n barnu; oblegid yn y peth y berni arall yr wyt yn dy gondemnio dy hun, canys yr wyt ti, y barnwr, yn gwneuthur yr un pethau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd paham, diesgus wyt ti, O ddyn, pwy bynnag wyt yn barnu: canys yn yr hyn yr wyt yn barnu arall, yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu, wyt yn gwneuthur yr un pethau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wedyn beth amdanat ti? — Ie, ti sydd mor barod i farnu pobl eraill a gosod dy ffon fesur arnyn nhw! Beth ydy dy esgus di? Y gwir ydy, rwyt ti'n gwneud yr un pethau! Felly wrth farnu pobl eraill rwyt ti'n dy gondemnio dy hun!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wyneb hyn, yr wyt ti sy'n eistedd mewn barn, pwy bynnag wyt, yn ddiesgus. Oherwydd, wrth farnu rhywun arall, yr wyt yn dy gollfarnu dy hun, gan dy fod ti, sy'n barnu, yn cyflawni'r un troseddau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd paham, diesgus wyt, O ddyn, bob un sydd yn barnu, canys yn yr hyn yr wyt yn barnu y llall, yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu wyt yn gwneuthur yr un pethau.