Romans 2:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Obleit pa sawl bynac a bechasant yn ddi‐ddeðyf, a gyfer gollir hefyt yn ddi‐ðeðyf: a’ pha sawl bynac a pechasant yn y ddeðyf, vvy a vernir wrth y Ddeddyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys cynnifer ag a bechasant heb y Gyfraith, heb y Gyfraith y derfydd am danynt; a chynnifer ag a bechasant tan y Gyfraith, trwy’ r Gyfraith y bernir hwynt,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oblegid cynifer ag a bechodd heb ddeddf, heb ddeddf a gollir hefyd; a chynifer ag a bechodd dan ddeddf, wrth ddeddf a fernir;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid cynifer ag a bechasant yn ddi‐ddeddf, a gyfrgollir hefyd yn ddi‐ddeddf; a chynifer ag a bechasant yn y ddeddf, a fernir wrth y ddeddf;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pobl sydd ddim yn Iddewon, a ddim yn gwybod am Gyfraith Duw, yn mynd i ddistryw am eu bod nhw wedi pechu. A bydd Iddewon, sef y bobl mae'r Gyfraith ganddyn nhw, yn cael eu cosbi am bechu hefyd — am dorri'r Gyfraith honno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Caiff pawb a bechodd heb y Gyfraith drengi hefyd heb y Gyfraith, a chaiff pawb a bechodd dan y Gyfraith eu barnu trwy'r Gyfraith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys cynnifer ag a bechasant yn ddiddeddf, yn ddiddeddf hefyd a gyfrgollir; a chynnifer ag a bechasant dan ddeddf, trwy ddeddf a fernir;