Romans 2:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys nyd gwrandawyr y Ddeddyf ynt yn gyfiawn ger bron Duw: eithyr gwneuthuwyr y Ddeddyf a gyfiawnheir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys nid gwrandawyr y Gyfraith sydd gyfiawn gyda Duw, ond gwneuthurwyr y Gyfraith a gyfiawnheir.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys nid gwrandawyr deddf sy gyfiawn gyda Duw, ond gweithredwyr deddf a gyfiawnheir.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(Canys nid gwrandawyr y ddeddf sydd gyfiawn gerbron Duw, ond gwneuthurwyr y ddeddf a gyfiawnheir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedi'r cwbl, dydy clywed y Gyfraith ddim yn gwneud eich perthynas chi hefo Duw yn iawn; gwneud beth mae Cyfraith Duw yn ei ddweud sy'n cyfri.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid y rhai sy'n gwrando'r Gyfraith a geir yn gyfiawn gerbron Duw. Na, y rhai sy'n cadw'r Gyfraith a ddyfernir yn gyfiawn ganddo ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys nid gwrandawyr deddf sydd gyfiawn ger bron Duw, ond gwneuthurwyr deddf a gyfiawnheir.