Romans 2:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Obleit pan vo y Cenetloedd yr ei nid yw ’r deddyf ganthynt, yn gwneuthur wrth anian y petheu ’sy yn y ddeddyf, y’n hwy eb vot y ddeddyf ganthynt, yn t ddeddyf yddyn y hunain,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys pan fo’r cenhedloedd, y rhai sydd heb y Gyfraith ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur pethau’r Gyfraith, y rhai hyn, heb y Gyfraith ganddynt,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oherwydd pan fo Cenhedloedd nad oes deddf ganddynt yn gwneuthur wrth natur bethau’r ddeddf, hwynt-hwy, heb ddeddf ganddynt, sy ddeddf iddynt eu hunain,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pan yw'r Cenhedloedd y rhai nid yw'r ddeddf ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur y pethau sydd yn y ddeddf, y rhai hyn heb fod y ddeddf ganddynt, ydynt ddeddf iddynt eu hunain:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Yn wir, mae pobl sydd ddim yn Iddewon yn gallu gwneud yn naturiol beth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn — er eu bod nhw ddim yn gwybod am y Gyfraith. Maen nhw'n dangos eu bod yn gwybod beth sy'n iawn a beth sydd ddim er bod y Gyfraith ddim ganddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan yw Cenhedloedd sydd heb y Gyfraith yn cadw gofynion y Gyfraith wrth reddf, y maent, gan eu bod heb y Gyfraith, yn gyfraith iddynt eu hunain.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pan fo Cenhedloedd, y rhai nid oes ganddynt ddeddf, wrth naturiaeth yn gwneuthur pethau y ddeddf, y rhai hyn, heb ddeddf, ydynt ddeddf iddynt eu hunain,