Romans 2:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yn y dydd pan varno Duw ddirgeloedd dynion trwy Iesu Christ, erwydd yr Euangel veu vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn ol fy Efengyl, trwy Iesu Grist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yn y dydd y barn Duw gudd bethau dynion, yn ôl fy efengyl i, trwy Iesu Grist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ôl fy efengyl i, trwy Iesu Grist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn ôl y newyddion da dw i'n ei gyhoeddi dyna fydd yn cyfri ar y diwrnod pan fydd Duw yn cael y Meseia Iesu i farnu cyfrinachau pawb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn l yr Efengyl yr wyf fi'n ei phregethu, felly y bydd yn y Dydd pan fydd Duw yn barnu meddyliau cuddiedig pawb trwy Grist Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ol fy Efengyl i, trwy Iesu Grist.