Romans 2:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wely, Iuddew ith elwir di, a’ gorph y wys ydd wyt yn y Ddeddyf, ac yn ymlawenhau yn‐Duw,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thydi, os Iwddew y’th enwir, ac ymorphwyso o honot ar y Gyfraith,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond tydi, os Iddew yr enwir di, a gorffwys ohonot ar ddeddf, ac ymffrostio yn Nuw,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, Iddew y'th elwir di, ac yr wyt yn gorffwys yn y ddeddf, ac yn gorfoleddu yn Nuw;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly ble mae hynny'n dy adael di sy'n galw dy hun yn Iddew? Rwyt ti'n brolio fod gen ti berthynas â Duw am fod gen ti'r Gyfraith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Amdanat ti, fe ddichon dy fod yn cario'r enw "Iddew", yn pwyso ar y Gyfraith, yn ymffrostio yn Nuw,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr tydi, os Iuddew y'th gyfenwir, ac ymorphwyso o honot ar ddeddf, ac ymffrostio yn Nuw;