Romans 2:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Tithe gan hyny rhwn a ðyscy arall, a n’ith ddyscy dy h un? ti yr hwn a precethy na ledrataer, a ledrety di?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr hwn, gan hyny, wyt yn dysgu arall, ai ti dy hun na ddysgi di? Yr hwn wyt yn pregethu peidio â lladratta, ai lladratta yr wyt?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ti, ynteu, sy’n dysgu arall, oni’th ddysgi dy hun? Ti, sy’n pregethu na ladrater, a ladreti di?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addysgu arall, oni'th ddysgi dy hun? yr hwn wyt yn pregethu, Na ladrater, a ladreti di?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rwyt ti'n dysgu pobl eraill, wyt ti? Felly, pam wyt ti ddim wedi dy ddysgu dy hun? Ti'n dweud wrth rywun arall “Paid dwyn,” ond yn dwyn dy hun!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os felly, ti sy'n dysgu arall, oni'th ddysgi dy hun? A wyt ti, sy'n pregethu yn erbyn lladrata, yn lleidr?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
tydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addysgu arall, oni'th ddysgi dy hun? yr hwn wyt yn pregethu, Na ladratter, a ladretti di?