Romans 2:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ti yr hwn a ddywedy, Na wnaed nep ’odinep a wnai di ’odinep? ti rhwn ’sy ðygas genyt eidolae, a gyssegr‐yspeily di?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn wyt yn dywedyd peidio â godinebu, ai godinebu yr wyt? Yr hwn wyt yn ffieiddio yr eulunod, ai yspeilio temlau yr wyt?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ti, sy’n dywedyd na odineber, a odinebi di? Ti, sy’n ffieiddio eilunod, a ysbeili di demlau?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn wyt yn dywedyd, Na odineber, a odinebi di? yr hwn wyt yn ffieiddio delwau, a gysegrysbeili di?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ti'n dweud “Paid godinebu”, ond rwyt ti dy hun yn godinebu! Ti'n ffieiddio eilun-dduwiau, ond rwyt ti dy hun yn halogi'r cysegr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A wyt ti, sy'n llefaru yn erbyn godinebu, yn odinebus? A wyt ti, sy'n ffieiddio eilunod, yn ysbeilio temlau?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn wyt yn dywedyd, Na odineber, a odinebi di? yr hwn wyt yn ffieiddio yr eilunod, a gyssegr‐yspeili di?