Romans 2:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ti rhwn a ymhoffy yn y Ddeddyf, trwy dori’r Ddeddyf a ddianrydeddy di Dduw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn, yn y Gyfraith yr ymffrosti, ai trwy droseddiad y Gyfraith y mae Duw yn cael Ei ddianrhydeddu genyt?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ti, sy’n ymffrostio mewn deddf, a ddianrhydeddi di Dduw trwy droseddu’r ddeddf?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn wyt yn gorfoleddu yn y ddeddf, trwy dorri'r ddeddf a ddianrhydeddi di Dduw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n ddigon hawdd brolio dy fod yn gwybod beth mae Cyfraith Duw'n ei ddweud, ond trwy dorri'r Gyfraith honno rwyt ti dy hun yn amharchu Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A wyt ti, sy'n ymffrostio yn y Gyfraith, yn dwyn gwarth ar Dduw trwy dorri ei Gyfraith?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn wyt yn ymffrostio mewn deddf, trwy droseddiad y ddeddf yr wyt yn dianrhydeddu Duw.