Romans 2:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys enwaediat yn wir a wna lles, a’s cedwy y Ddeðyf: eithyr a’s torwr y Ddeðyf vyðy, ef aeth dy enwaediat yn ðienwaediat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys amdorriad yn wir sy’n llesau, os y Gyfraith a wnei; ond os troseddwr y Gyfraith wyt, dy amdorriad a aeth yn ddiamdorriad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Buddiol yn ddiau yw enwaediad, os cedwi ddeddf, ond os troseddwr deddf ydwyt, aeth dy enwaediad yn ddienwaediad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys enwaediad yn wir a wna les, os cedwi y ddeddf: eithr os troseddwr y ddeddf ydwyt, aeth dy enwaediad yn ddienwaediad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddai'r ddefod o enwaediad yn golygu rhywbeth taset ti'n gwneud popeth mae'r Gyfraith yn ei ofyn. Ond os wyt ti'n torri'r Gyfraith does gen ti ddim mantais — waeth i ti fod heb dy enwaedu ddim!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn ddiau y mae gwerth i enwaediad, os wyt yn cadw'r Gyfraith. Ond os torri'r Gyfraith yr wyt ti, y mae dy enwaediad wedi mynd yn ddienwaediad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys enwaediad yn wir sydd yn lleshâu, os gwnei y ddeddf; eithr os troseddwr y ddeddf ydwyt, y mae dy enwaediad wedi myned yn ddienwaediad.