Romans 2:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac any byð ir dienwaediat yr vn ’sy wrth anian (a’s caidw y ddeðyf) dy varnu di yr hwn wrth y llythyr en a’r enwaediat vvyt yn dorwr y Ddeddyf?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a barnu o’r diamdorriad y sydd o naturiaeth, pan y Gyfraith a gyflawno efe, di yr hwn, ynghyda’r llythyren ac amdorriaeth, wyt yn droseddwr y Gyfraith?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r dienwaediad wrth natur, drwy gyflawni’r ddeddf, a’th farn di, sydd gyda’th lythyren a’th enwaediad yn droseddwr deddf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac oni bydd i'r dienwaediad yr hwn sydd o naturiaeth, os ceidw y ddeddf, dy farnu di, yr hwn wrth y llythyren a'r enwaediad wyt yn troseddu'r ddeddf?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y dyn sydd heb fod drwy'r ddefod o gael ei enwaedu (ond sy'n gwneud beth mae'r Gyfraith yn ei ofyn) yn dy gondemnio di sydd wedi ‛cadw at lythyren y ddeddf‛ drwy gael dy enwaedu yn gorfforol, ac eto'n dal i dorri'r Gyfraith!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd y dienwaededig ei gorff, os yw'n cyflawni'r Gyfraith, yn farnwr arnat ti, sydd yn droseddwr y Gyfraith er bod gennyt gyfraith ysgrifenedig a'r enwaediad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r dienwaediad, yr hwn sydd o naturiaeth, gan gyflawnu y ddeddf, a'th farna di, yr hwn, gyda' th Lythyren a' th Enwaediad, wyt droseddwr deddf.