Romans 2:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
eithr efe ysy Iuddew yr hwn ’sy vn o dd y wewn, a’r enwaediat ’sy ir galon, sef yn yr yspryt, ny d yn y llythyr en, a’ ei voliant ny d yw o ddynion, amyn o Dduw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iwddew, ac amdorriad yw amdorriad y galon yn yr yspryd, nid yn y llythyren; clod yr hwn, nid o ddynion y mae, ond o Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yn hytrach yr Iddew oddi mewn sydd Iddew, ac enwaediad calon, mewn ysbryd nid mewn llythyren, sydd enwaediad, a’i glod, nid o ddynion ond o Dduw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iddew; ac enwaediad y galon sydd yn yr ysbryd, nid yn y llythyren; yr hwn y mae ei glod nid o ddynion, ond o Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Na, enwaediad go iawn ydy'r newid ynot ti sy'n dod drwy'r Ysbryd Glân, dim y weithred lythrennol o dorri'r blaengroen. Iddew go iawn ydy rhywun sydd wedi newid y tu mewn. Mae rhywun felly'n cael ei ganmol gan Dduw, dim gan bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y gwir Iddew yw'r Iddew cuddiedig, a'r gwir enwaediad yw enwaediad y galon, peth ysbrydol, nid llythrennol. Dyma'r un sy'n cael clod, nid gan bobl eraill, ond gan Dduw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yr hwn sydd oddi mewn sydd Iuddew, ac enwaediad yw eiddo y galon yn yr yspryd, nid yn y llythyren, clod yr hwn nid yw o ddynion, ond o Dduw.