Romans 2:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a dyby di hyn, a ddyn, ’rhwn a verny yr ei a wnant gyfryw betheu, ac a wnai yr vnryw, y diengy di rac varn Duw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac a dybi di hyn, O ddyn y sy’n barnu y rhai yn gwneuthur y fath bethau ac yn eu gwneuthur hwynt, y diengi di rhag barn Duw?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac a dybi di hyn, ddyn, tydi sy’n barnu’r sawl a wna’r cyfryw bethau, a thithau yn eu gwneuthur, y dihengi di rhag barn Duw?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a wyt ti'n tybied hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu'r rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thithau yn gwneuthur yr un pethau, y dihengi di rhag barn Duw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wyt ti felly'n meddwl y byddi di'n osgoi cael dy farnu? Ie, ti sydd mor barod i weld bai ar bobl eraill tra'n gwneud yn union yr un pethau dy hun!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond a wyt ti, yr un sy'n eistedd mewn barn ar y rhai sy'n cyflawni'r fath droseddau, ac yn eu gwneud dy hun, a wyt ti'n tybied y cei di ddianc rhag barn Duw?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac a wyt ti yn cyfrif hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thi yn gwneuthur yr un pethau, y diengi di rhag barn Duw?