Romans 2:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Neu a dremygy di ’olud y ddayoni ef, ai ddyoddef garvvch, ai ammynedd, eb gyf adnabot vot daioni Duw yn dy arwein di y ediverwch?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ai golud Ei ddaioni a’i ddioddefgarwch, a’i hwyrfrydigrwydd Ef a ddirmygi, gan fod heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys i edifeirwch,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Neu a ddirmygi di olud ei diriondeb, a’i oddefgarwch, a’i hirymaros, heb wybod bod tiriondeb Duw yn d’arwain di i edifeirwch?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Neu a wyt ti'n diystyru golud ei ddaioni ef, a'i ddioddefgarwch, a'i ymaros, heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Neu wyt ti'n cymryd Duw yn ganiataol, am ei fod mor garedig a goddefgar ac amyneddgar? Wyt ti ddim yn gweld fod Duw trwy fod yn garedig atat ti eisiau dy arwain di i newid dy ffyrdd?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Neu, ai dibris gennyt yw cyfoeth ei diriondeb a'i ymatal a'i amynedd? A fynni di beidio gweld mai amcan tiriondeb Duw yw dy ddwyn i edifeirwch?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Neu a ddiystyri di olud ei ddaioni a'i oddefgarwch a'i hir‐ymaros, gan fod heb wybod fod rhodd ddaionus Duw yn dy dywys di i edifeirwch?