Romans 3:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
megis y mae yn scrivenedic, Nyd oes nep cyfiawn, nac oes vn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
bawb o honynt, tan bechod; fel yr ysgrifenwyd, “Nid oes neb cyfiawn, nid hyd yn oed un;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel yr ysgrifennwyd: Nid oes cyfiawn, dim un.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Megis y mae yn ysgrifenedig, Nid oes neb cyfiawn, nac oes un:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth yn glir: “Does gan neb berthynas iawn gyda Duw — neb o gwbl!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel y mae'n ysgrifenedig: "Nid oes neb cyfiawn, nac oes un,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y mae yn ysgrifenedig, Nid oes cyfiawn, ddim un;