Romans 3:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwyddom mai pa pethe bynac a ddywait y ddeddyf, mae wrth yr ei ’sy dan y Ddeðyf y dywait hi, y n y chaeer pop geneu, ac y ny bo yr oll vyt yn euoc geir bron Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond gwyddom am gynnifer bethau ag y mae’r Gyfraith yn eu dywedyd, mai wrth y rhai tan y Gyfraith y’u dywaid, fel y bo pob genau wedi ei gau, ac yr elo yr holl fyd dan farn Duw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwyddom, pa bethau bynnag a ddywed y ddeddf, mai wrth y sawl sydd dan y ddeddf y llefara, fel y caeer pob genau ac y bo’r holl fyd dan farn Duw;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni a wyddom hefyd am ba bethau bynnag y mae'r ddeddf yn ei ddywedyd, mai wrth y rhai sydd dan y ddeddf y mae hi yn ei ddywedyd: fel y caeer pob genau, ac y byddo'r holl fyd dan farn Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Siarad am yr Iddewon mae Duw yma! Mae'r peth yn amlwg — nhw gafodd yr ysgrifau sanctaidd ganddo! Felly beth mwy sydd i'w ddweud? Mae'r byd i gyd yn wynebu barn Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe wyddom mai wrth y rhai sydd dan y Gyfraith y mae'r Gyfraith yn llefaru pob dim a ddywed. Felly dyna daw ar bob ceg, a'r byd i gyd wedi ei osod dan farn Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond ni a wyddom am ba bethau bynnag y mae y ddeddf yn eu dywedyd, wrth y rhai sydd dan y ddeddf y mae hi yn llefaru, fel y cauer pob genau, ac fel yr elo yr holl fyd yn agored i farn Duw: