Romans 3:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Llawer ym pop ryw vodd: can yn bennaf, am ’orchymyn yddwynt wy ymadroddion Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Llawer ym mhob modd. Yn gyntaf, oblegid yr ymddiriedwyd oraclau Duw iddynt: canys pa beth os di-ffydd oedd rhai? A fydd eu hanghrediniaeth yn gwneuthur ffyddlondeb Duw yn ddirym?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Llawer ym mhob modd. Yn gyntaf oll, ymddiried iddynt oraclau Duw. Pa wahaniaeth?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Llawer, ym mhob rhyw fodd: yn gyntaf, oherwydd darfod ymddiried iddynt hwy am ymadroddion Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Oes! Mae llond gwlad o fanteision! Yn gyntaf, yr Iddewon gafodd y cyfrifoldeb o ofalu am neges Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae llawer, ym mhob modd. Yn y lle cyntaf, i'r Iddewon yr ymddiriedwyd oraclau Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Llawer ym mhob modd: yn gyntaf, yn wir, oblegyd ddarfod ymddiried iddynt am oraclau Duw.