Romans 3:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny can weithredoeð y Ddeddyf ny chyfiawnheir vn cnawd yn y ’olwc ef: o bleit can y Ddeðyf y cair adnabod edigeth pechot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys trwy weithredoedd y Gyfraith ni chyfiawnheir un cnawd ger Ei fron Ef, canys trwy’ r Gyfraith y mae adnabod pechod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
oherwydd trwy weithredoedd deddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei ŵydd ef. Canys trwy ddeddf y mae adnabyddiaeth o bechod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny trwy weithredoedd y ddeddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei olwg ef; canys trwy'r ddeddf y mae adnabod pechod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does neb byw yn gallu bod yn iawn gyda Duw trwy wneud beth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn. Beth mae'r Gyfraith yn ei wneud go iawn ydy dangos ein pechod i ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd, "gerbron Duw ni chyfiawnheir neb meidrol" trwy gadw gofynion cyfraith. Yr hyn a geir trwy'r Gyfraith yw ymwybyddiaeth o bechod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd trwy weithredoedd deddf ni chyfiawnheir un cnawd ger ei fron ef; canys trwy ddeddf y mae adnabod pechod.